Cofio Dy Wyneb Lyrics & Tabs by Bryn Fôn
Cofio Dy Wyneb
guitar chords lyrics
Rwy'n cofio gweld y lleuad mor wyn ac yr haul,
ar tywod fel eira yn y golau
Dy law di yn fy llaw i'n oer
a'th drwyn di fel trwyn esgimo,
ond dyma be dwi'n gofio orau.
Dwi'n cofio dy wyneb,
Yn edrych ar fy nghwyneb
dy lygaid yn edrych i fy llygaid,
Dy law ar fy ysgwydd
a'th galon ym mhoced cesail fy nghot.
'Di Benllach ddim yn nefoedd "nenwedig yn yr Haf
Ond roedd dy gwmnni di yn ei wella,
a 'chydig a wyddwn i fod y tywydd am droi,
a mod i ar fin dy golli.
Dwi'n cofio dy wyneb,
a 'chydig a wyddwn i fod y tywydd am droi,
a mod i ar fin dy golli.
Dwi'n cofio dy wyneb,
Yn edrych ar fy nghwyneb
dy lygaid yn edrych i fy llygaid,
Dy law ar fy ysgwydd
a'th galon ym mhoced cesail fy nghot.
Ni af i Benllach eto, mae'r Haf wedi mynd,
a'r ceir yn mynd yn ol dros bont Menai
Ond gadael a wnaethost ti a gwn na ddoi di byth yn nol,
ond eto pan ddaw'r Haf mi fyddai'n;
Dwi'n cofio dy wyneb,
Yn edrych ar fy nghwyneb
dy lygaid yn edrych i fy llygaid,
Dy law ar fy ysgwydd
a'th galon ym mhoced cesail fy nghot.