Coedwig ar Dân Lyrics & Tabs by Bryn Fôn

Coedwig ar Dân

guitar chords lyrics

Bryn Fôn

Album : Dawnsio ar y DibynPlayStop

Ma’ coedwig ar dan wrth yn ffin yn Guatemala,
a disgyn mae’r ser ar y ffordd i Choroni,
goleuadau’r gogledd yn pefrio yng Nghaeredin

a titha’ ar fy meddwl i.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
dwi’n teimlo gwres dy gariad
ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.
Mae’r cymylau yn ddu uwchben Santa Maria,
swn y seiren yn groch ar y stryd yn Bangor, Maine.
Clycha’n canu heno dros y muriau llwyd yn Bandon
a dwi’n hiraethu am dy wen.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.

a dwi’n hiraethu am dy wen.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
dwi’n teimlo gwres dy gariad
ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.
Mae’r lleuad yn llawn dros y tywod yn Lamorna
bwrw glaw yn Vienna, mellt a thrannau yn Tralee.
Mae’n hanner nos yn Chichicastenango
a titha’ ar fy meddwl i.
Pan mae bywyd yn anodd a finna’n rhan o’r syrcas,
teimlo’r nos yn cau amdana’ fi.
Ond er dy fod ymhell i ffwrdd
dwi’n teimlo gwres dy gariad
ymhell dros y moroedd, ymhell dros y lli.

Like us on Facebook.....
-> Loading Time :0.0052 sec