Ceidwad y Goleudy Lyrics & Tabs by Bryn Fôn

Ceidwad y Goleudy

guitar chords lyrics

Bryn Fôn

Album : Y Goreuon 1994 - 2005 cymraeg PlayStop

Wrth gwrs fe gei di gerdded ar hyd fy llwybr,
Cei fynd lle y mynni ar fy nhir.
Wrth gwrs fe gei di gasglu mlodau harddaf,

Dim ond i ti addo dweud y gwir.
Wrth gwrs fe gei di gerdded i fy mwthyn,
Cei gynna’ y tan a hwylio’r te.
Wrth gwrs fe gei di groeso ar fy aelwyd,
Dim ond i ti ebsonio be’ ‘di be.
Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd
Fe’i gwelwyd yno’n boddi gan geidwad y goleudy
Fe’i clywodd yn gweiddi ‘A wnei di f’achub i?’
Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio
Ceidwad y goleudy ydwyf i.

Wrth gwrs gei di weddi wrth fy allor
Rhoddaf glustiau fy Nuw yn eiddo i ti
Wrth gwrs cei fedyddio dy blant yn nwr fy ffynon
Dim ond i ti ddysgu ngharu i
Dyma gan a achubwyd o donnau y moroedd
Fe’i gwelwyd yno’n boddi gan geidwad y goleudy
Fe’i clywodd yn gweiddi ‘A wnei di f’achub i?’
Can a oedd yn llithro rhwng muriau llaith anghofio
Ceidwad y goleudy ydwyf i.
Ceidwad y goleudy ydwyf i.

Like us on Facebook.....
-> Loading Time :0.0103 sec